Lleoliad:
Ymweliad allanol – Brwsel
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2023
Amser:
15.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Lara Date
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddEconomi@senedd.cymru
------
Ymweliad y Pwyllgor â Brwsel
Ar 13 Medi 2023, cytunodd Aelodau'r Pwyllgor ar genhadaeth canfod ffeithiau i Frwsel yn nhymor yr Hydref. Y pwrpas cyffredinol oedd cwrdd ag Aelodau o Senedd Ewrop a chynrychiolwyr o lywodraethau a sefydliadau sy’n gweithio mewn meysydd yn ymwneud â chylch gorchwyl y Pwyllgor ac y mae gan Lywodraeth Cymru bartneriaethau strategol â nhw. Roedd hyn yn cynnwys sefydliadau masnach, amaethyddiaeth a physgodfeydd, a’r rhai sy’n gweithio ym maes ymchwil a datblygu, gan gynnwys Horizon Ewrop.
Roedd yr ymweliad yn galluogi’r Pwyllgor i gryfhau ei gysylltiadau â’i gymheiriaid yn yr UE a sefydliadau Ewropeaidd perthnasol, gan gynnwys Senedd Ewrop a sefydliadau eraill yr UE a chynrychiolwyr sydd wedi’u lleoli ym Mrwsel.
Trafodwyd ystod eang o faterion yn ystod yr ymweliad. Roedd y rhain yn cynnwys y berthynas rhwng Cymru, y DU a'r UE, y Cytundeb Masnach a Chydweithredu gan gynnwys agweddau ar bysgodfeydd, y Model Gweithredu Targed y Ffin; cynrychiolaeth Cymru ar Grŵp Cynghori Domestig y DU, a materion yn ymwneud â thariffau a rheolau tarddiad ar fatris a cherbydau trydan; Materion amaethyddol gan gynnwys diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, mesurau adfer natur a'r agenda cynaliadwyedd, a chyfwerthedd cynnyrch organig; ac Addysg Uwch ac ymchwil ac arloesi, gan gynnwys rhaglen gyfnewid ryngwladol Taith, a chyfleoedd i gydweithio drwy raglen Horizon.
Dydd Mercher 15 Tachwedd
1 Senedd Ewrop
Cyfarfod gyda François Alfonsi ASE, aelod o’r Pwyllgor ar Ddatblygu Rhanbarthol a’r Pwyllgor ar Faterion Tramor.
2 Business Europe
Cyfarfod gyda Louisa Santos, Dirprwy Gyfarwyddwr
Dydd Iau 16 Tachwedd
3 Cenhadaeth y DU i'r Undeb Ewropeaidd
Cyfarfod gyda Zoӫ Compston, Cwnselydd, Nwyddau, Iechyd a'r Amgylchedd, a chydweithwyr
4 Swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel
Cyfarfod gydag Eleanor Vaughan, Pennaeth y Swyddfa, a Gavin Lewis, Pennaeth Polisi Economaidd, Cymdeithasol a Rhanbarthol
5 Copa-Cogeca, corff sy'n cynrychioli ffermio ac undebau ffermio
Cyfarfod gyda Branwen Miles, Uwch Gynghorydd Polisi; Oana Neagu, Cyfarwyddwr, Materion Cyffredinol; Ksenija Simovic, Uwch Gynghorydd Polisi, Masnach a Materion Rhyngwladol; Niall Curley, Pridd a Bioamrywiaeth; Thomas Sanchez, Da Byw a Lles Anifeiliaid a Ffytoiechydol
6 Biwro Amaethyddol Prydain
Cyfarfod gyda Katy Adams, Uwch Swyddog Polisi
7 Y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol
Cyfarfod gyda Fergus McReynolds, Cyfarwyddwr Materion yr UE
8 Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB)
Cyfarfod gyda Catherine Marston, Swyddog Datblygu Strategol